Mae Mrs J. yn un o'n hoff gwsmeriaid. Mae hi wedi bod efo ni ers y cychwyn a rydym wedi gallu darparu'r dechnoleg ddiweddaraf a chymorth iddi ers dros 4 mlynedd.
Ychydig fisoedd yn ôl penderfynodd Mrs J. bod arni argraffydd newydd.
Gwych medden ni, be sydd gennych mewn golwg?
A dyna pryd dechreuodd y sialens!
Rwan, swyddfa fach iawn sydd gan Mrs J. ond mae yna le i bopeth a popeth yn ei le.
Ar ben rhestr y gofynion oedd bod yr argraffydd newydd yn mynd i le yr hen un.
42" lled x 41"dyfnder x 24" uchder
Roedd yr hen argraffydd yn fychan ac yn ffitio fel maneg i'r twll a gynllunwyd ar ei gyfer ar y silffoedd. Dim ond argraffu oedd ei swydd, ond roedd gofynion yr argraffydd newydd yn fwy.
- Rhaid oedd cael sgrin rhagweld
- Llungopio
- Sganio
- Argraffu lluniau
- Agraffu dwy ochr i'r papur.
Dyna pryd y bu'n rhaid i griw Crwstech wisgo ei het ymchwilio mlaen. Doedden ni ddim eisiau siomi MrsJ. a thori ar y traddodiad o allu ateb holl ofynion ein cwsmeriaid. (weithiau mae'n anodd ac rhaid cyfaddawdu)
Ar ôl mis neu ddau o syrffio a chwilio nid oeddem yn cael llawer o hwyl arni. Llawer iawn o argraffwyr da iawn ond dim un yn cyfateb â'r gofynion........tan wythnos diwethaf lle darganfyddon ni:
Y'r
Epson XP-520 ateb i'n gofynion.
(Linc partneriaeth Amazon )
Roedd hwn yn gallu gwneud pob dim clyfar, Google Print ac argraffu o ffôn lôn.
Mae'n argraffu ar ddwy dudalen, mae ganddo sgrin ac mae'n argraffu lluniau
ond
Y peth pwysicaf un............ mae o'n ffitio.
Am inc i'r argraffydd yma ac eraill,
rhai gwreiddiol neu wedi'i ailgylchu.