Mae'n bwysig bod ni'n cadw ein cyfrifiaduron, tabledi a ffonau yn ddiogel ac yn rhedeg yn gyflym a llyfn.
Heddiw rydym yn argymell y tri yma ar gyfer eich offer technolegol.
Meddalwedd Gwrth Feirws: Avira
Dyma'r meddalwedd Gwrth Feirws yr ydym ni'n defnyddio ar ein peiriannau ni yn Crwstech. Mae Avira yn gwmni o'r Almaen sydd yn gyson sgorio yn uchel yn mhrofion y dywydiant diogelwch.
Ar gael ar gyfer: Windows, Mac, Android ac iOS
Meddalwedd Gwrth Malwedd: Malwarebytes
Pwrpas Malwarebytes ydi chwilio am y meddalwedd diangen a pheryglys all fod wedi ei lawrlwytho i'ch cyfrifiadur mewn camgymeriad neu heb yn wybod i chi. Ar ol darganfod y malwedd tebyg i Worms, Trojans, Rootkits, Rouges a Spyware mae'n cael gwared ohonyn nhw i chi.
Meddalwedd Glanhau: CCleaner
Dros amser mae eich dyfais cyfrifadurol yn casglu a storio gwybodaeth all arafu y system. Gwaith CCleaner ydi cael gwared o'r ffeiliau yma a creu lle ar y ddisg galed. Mae'n hefyd yn clirio y cofrestr ac yn eich galluogi i gael gwared o rhagleni di angen a chyflymu y broses o gychwyn y teclyn.
Mae fersiwn
am ddim o CCleaner ar gael sydd yn cynnig yr uwchben a fersiwn Proffesiynol a Proffesiynol + sydd yn cynnwys mwy o wasnaethau.