Pages

22.5.20

Neges destun gan "HSCB" - Sgam wylio!

Hoff dric y sgamiwr ydy chwarae gyda ofnau pobl. Pwrpas unrhyw neges sgam ydi gwneud i chi gael y teimlad o ofn neu banig, a gwneud i chi bwyso y ddolen linc mae nhw wedi'u ddanfon.
Dyma un dderbyniwyd mis diwethaf.

Mae'r neges yma yn ein hysbysebu bod rhywun yn ceisio tynnu arian allan o'n cyfrif bank HSBC.
Yn bwrpasol, mae'n codi braw ac yn rhoi dolen i atal y trafodiad.

Be am ddal arni am eiliad a edrych am gliwiau yn y neges.

  • Yda chi yn bancio gyda'r banc yma?
  • Yda chi'n adnabod MRS K ADAMS?
  • Ydi'r y cyfeiriad URL yn yn gwir?

Falle bod chi yn bancio gyda HSBC felly falle byddai hyna ddim yn anghyffredin i chi.

Yda chi yn nabod MRS K ADAMS - mae'r sgamwyr yn gobeithio bod chi ddim fel bod chi yn clicio'r ddolen.

Y cliw mwy bod hwn yn neges TECSGOTA ydi'r cyfeiriad URL. Sbiwch ar sut mae HSBC wedi ei sillafu.
Drwy ddefnyddio'r wefan Virus Total gallwn ddarganfod mwy am y ddolen yma heb gorfod ei glicio.


Gallwn hefyd ymchwilio y rhif testun yn ei'n chwilotwr.

Os yda chi yn derbyn negeseuon fel hyn, cymerwch funud i feddwl cyn gwneud dim a chwiliwch am gliwiau fyddai yn profi bod y ddolen yn un  peryglus i'w ddilyn.