Pages

10.11.20

Sgam Wylio: Neges destun gan Lloyds?

 


Gwyliwch allan am y sgam testun diweddaraf. Mi wnaeth yr uchod glanio yn mewnflwch y ffon bore ma.
Fel pob neges, boed yn un testun, ebost neu rhai o'r cyfryngau cymdeithasol, mae'n werth cymeryd pum munud cyn ymateb i'r fath ebost.

Felly yn ystod y pum munud dyma be arsylwyd.
  • Ydwi yn bancio gyda'r banc yma? - Na
  • Oes genai y math yna o ffon? - Na
  • Ydy'r neges yn ceisio rhoi braw i mi a gwneud i mi wneud rhywbeth byrbwyll? Yndi
  • Yndi'r cyfeiriad y ddolen yn edrych yn gywir? - Na
O'r uchod mae'n amlwg mae neges SGAM ydi hwn, sydd yn ceisio codi braw ar y derbynydd a gwneud iddynt ddilyn dolen sydd yn siwr o arwain i dudalen y byddwn ni yn difaru mynd iddi.

Drwy ddefnyddio Virus Total.com gallwn weld bod 5/80 peiriant chwilio yn marcio y cyfeiriad fel un peryglus.

Ar wefan Google Transparency Report mi welwn y neges yma am y cyfeiriad.
Felly os ydych chi'n derbyn neges fel hyn, cymerwch bum munud i feddwl, gofynwch i chi'ch hyn " Ydi hwn yn wir neu beidio?"  

Os oes yna fwy na un rhybudd yn tanio alarwm yn eich meddwl yna peth gorau i'w wneud ydio sticio'r neges yn y fasged sbwriel.


Dell Latitude 7350

 


Intel Core M-5Y71 1.2 GHz (up to 2.9ghz)
8GB DDR3

128GB SSD
Bluetooth 4.0
Mini Display Port
2 x USB 3.0
13.3” FHD Gorilla Glass Touchscreen (1920 x 1080)
Windows 10 Pro 64bit
Blwyddyn o warant

Pris £420

neu gyda SSD 240GB

Pris £445

Cysylltwch i'w archebu.


Nifer cyfyngedig, cyntaf i'r felin.