Rydym ni yn ffans o Sum Up a'i peiriannau cymryd cerdyn (PCC) ac yn annog pawb i gael un fel ei prif beiriant neu fel un spar rhag ofn i'r prif un dorri.
Gwasanaeth arall mae Crwstech yn ei ddefnyddio ganddyn nhw ydi ei tudalen gwerthu ar lein am ddim.
Os digwydd i ni werthu drwy ei tudalen yna mae Sum Up yn cymeryd 1.95% o ffi.
Yndi, mae'r wefan yn syml ond dim ond pum munud gymerodd i ni ychwanegu ein cynhyrch cyntaf ar lein.
Yn rhan o hyn gewch chi linc gyda'ch enw busnes arno i ddanfon i'ch cwsmeriaid.
Tarwch nodyn i ni am fwy o wybodaeth neu ewch i'r wefan yma i archebu darllenwr cerdyn a siop ar lein.
No comments:
Post a Comment